2011 Rhif 2011(Cy.221  ) (C.74)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn

Rhif 1) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 31 Awst 2011 ddarpariaethau yn y Mesur a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

adrannau 1 i 3 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr);

adran 141 (y Panel) sy'n cyflwyno Atodlen 2 (y Panel) sy'n nodi'r gweithdrefnau o ran penodi, gweinyddu a sicrhau cymorth ar gyfer y Panel (gan gynnwys anghymhwyso rhag bod yn aelod);

adran 142 (swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 143 (swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.);

adran 145 (adroddiadau blynyddol) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 146 (yr adroddiad blynyddol cyntaf);

adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau)  i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

is-adrannau (2), (3) a (4) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau) i’r graddau y maent yn ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 157 (canllawiau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

adran 158 (y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel);

adran 161 (canllawiau ynghylch cydlafurio rhwng awdurdodau gwella Cymreig) sy'n diwygio Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau statudol ar bob agwedd ar bwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol o dan y Mesur hwnnw;

adrannau 162 i 171 (cyfuno). Mae Pennod 2 o Ran 9 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfuno, drwy orchymyn, ddau neu dri awdurdod lleol (a dim mwy na hynny) i greu un ardal llywodraeth leol newydd yn ddarostyngedig i'r darpariaethau yn y Bennod honno;

Atodlen 2 (y Panel) sy’n nodi’r gweithdrefnau o ran penodi, gweinyddu a sicrhau cymorth ar gyfer y Panel (gan gynnwys anghymhwyso rhag bod yn aelod).

Gweler hefyd adran 178 (cychwyn) ar gyfer darpariaethau sy’n dod i rym ar ôl pasio’r Mesur.


 

2011 Rhif 2011(Cy.221) (C. 74)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn

Rhif 1) 2011

Gwnaed                                     9 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011([1]).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Awst 2011

2. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 31 Awst 2011—

(a)     adrannau 1 i 3 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr);

(b)     adran 141 (y Panel);

(c)     adran 142 (swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ch) adran 143 (swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(d)     adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.);

(dd) adran 145 (adroddiadau blynyddol) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(e)     adran 146 (yr adroddiad blynyddol cyntaf);

(f)      adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ff) adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(g)     adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ng) adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(h)     adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(i)      adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(j)      is-adrannau (2), (3) a (4) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau) i’r graddau y maent yn ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(l)   adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ll)  adran 157 (canllawiau) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(m) adran 158 (y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel);

(n) adran 161 (canllawiau ynghylch cydlafurio rhwng awdurdodau gwella Cymreig);

(o)  adrannau 162 i 171 (cyfuno);

(p)  Atodlen 2 (y Panel).

 

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

9 Awst 2011

 

 



([1])           2011 mccc 4.